O'r diwedd fe iachaed fy nghlwy'

(Gwaredigaeth yn nesau)
O'r diwedd fe iachaed fy nghlwy',
Na lwfrhaed credadyn mwy;
  Ei air a saif, ei 'ddewid wen,
  Er oedi'n hir, a ddaw i ben.

Dyma gyfarfod hyfryd iawn,
Myfi yn llwm a'r Iesu'n llawn;
  Myfi yn dlawd heb feddu dim,
  Ac yntau'n rhoddi pob peth im'.

Y bywyd wyf yn awr yn fyw,
Sy'n meddu hapusrwydd o bob rhyw;
  Hapusrwydd yw, O! d'wedwch pwy
  A wela ddiwedd arno mwy.
William Williams 1717-91

Tôn [MH 8888]: Tawelwch (<1835)

gwelir:
  Dyma gyfarfod hyfryd iawn
  'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy'
  Wrth droi fy ngolwg yma i lawr

(Deliverance nearing)
Eventually may my ailment be healed,
Nor let the believer flinch any more;
  His word shall stand, his blessed promise,
  Despite long ages, which shall come to an end.

Here is a very delightful covenant,
I bare and Jesus full;
  I poor, not possessing anything,
  And he giving everything to me.

The life which I now live,
Is possessed of happiness of every kind;
  It is happiness. O tell! Who 
  Will see the end of it any more?
tr. 2009 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~